P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i restru, neu i ddiogelu mewn ffordd arall, yr adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru. A hwythau heb eu rhestru, ond wedi’u lleoli yn yr Ardal Gadwraeth, maent yn rhan werthfawr o dreftadaeth bensaernïol a chymdeithasol Talgarth.

Prif ddeisebydd: John Tushingham

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 28 Chwefror 2012

Nifer y deisebwyr: 206

 

Gwybodaeth ategol:Cafodd Ysbyty Aberhonddu a Sir Faesyfed achlysur agor mawreddog ym 1903. Maer coflyfr yn disgrifior miloedd o bobl oedd yn bresennol a bod pob twll a chornel or adeilad anferthol yn cael ei archwilio. Ar y cyfan, roedd y sefydliad yn rhyfeddod oi oes. Mae bellach mewn cyflwr truenus, ond maer enghraifft bwysig hon o noddfa Edwardaidd cynnar ar ffurf esielon neu saeth, a gynlluniwyd gan Giles, Gough a Trollope, a nodwyd gan Pevsner ac sydd ar gofrestr Adeiladau mewn Perygl SAVE Britains Heritage, yn gwbl deilwng oi chadw. Wedii lleoli tua hanner milltir o Dalgarth mewn ardal eithriadol o hardd o gefn gwlad ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Ardal Gadwraeth Talgarth, mae ganddi berthynas arbennig â Thalgarth. Byddai colli unrhyw ran or adeiladau gwreiddiol/nodedig yn golled annerbyniol i asedau treftadaeth Talgarth.